Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Myfyrwyr Adolygwyr QAA

Lleoliad: Gweithio hyblyg
Dyddiad cau: 20/01/2025

Ydych chi'n angerddol am addysg drydyddol?

Ydych chi’n fyfyriwr neu’n swyddog sabothol mewn coleg neu brifysgol yn y DU ar hyn o bryd, neu wedi bod yn ddiweddar, sydd â phrofiad o gynrychioli buddiannau myfyrwyr, a all gefnogi a herio’n adeiladol uchelgeisiau sefydliadau unigol?

Os felly, efallai mai chi yw'r person rydyn ni'n chwilio amdano!

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â sefydliad sydd â rôl hanfodol yn sector addysg drydyddol y DU. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr cyfredol neu ddiweddar i ymuno â'n carfan o fyfyrwyr adolygwyr.

Rydym yn asiantaeth ansawdd sy'n arwain y byd gyda phrofiad digymar o ddarparu sicrwydd a gwelliant ansawdd rheoleiddiol a chydweithredol diduedd. Rydym yn cynnig cymorth i brifysgolion a cholegau, ac yn gweithio gyda myfyrwyr a dysgwyr, llywodraethau, cyllidwyr a chyrff rheoleiddio, i dystiolaethu a gwella ansawdd rhagorol a safonau uchel yr addysg a ddarperir ganddynt.

Rydym yn gweithio tuag at ddealltwriaeth well ar ran y cyhoedd - gartref ac yn rhyngwladol - o sut y dangosir ansawdd rhagorol mewn addysg uwch yn y DU, a sut mae darparwyr hunan-reolus yn sicrhau darpariaeth yr ansawdd honno a mynd i'r afael â gwendidau. Mae ein gwaith yn diogelu gwerth cymwysterau i fyfyrwyr a dysgwyr, yn ogystal â diogelu a hyrwyddo enw da addysg drydyddol.

Ynglŷn â'r rôl

Fel Myfyriwr Adolygwr byddwch yn defnyddio eich profiad fel aelod o dîm adolygu gyda chefnogaeth Swyddog QAA. Mae hyn yn cynnwys defnyddio tystiolaeth a dogfennaeth gan brifysgolion a cholegau ac ymweld â'r sefydliadau hyn i wneud dyfarniad ar eu darpariaethau dysgu a chymorth.

Mae'r ymrwymiad amser yn dibynnu ar y gweithgareddau y dewiswch eu derbyn ac mae'n debygol o gynnwys gweithgaredd wrth ddesg dros gyfres o wythnosau neu fisoedd, gan arwain at un neu fwy o ymweliadau, yn dibynnu ar y dull adolygu, â'r sefydliad sy'n cael ei adolygu.

Mae rhagor o fanylion am y prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau, ynghyd â’r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol, ar gael yn y Proffil Rôl. Os cewch eich penodi'n llwyddiannus i'r rôl hon, byddech yn ymuno â charfan myfyrwyr adolygwyr QAA, a byddwch yn gymwys i gymryd rhan yng ngweithgarwch adolygu QAA ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Cadarnheir y ffioedd ar gyfer pob gweithgaredd sicrhau ansawdd ar yr adeg y cewch eich gwahodd i gymryd rhan.

Bydd angen cwblhau hyfforddiant gorfodol, cyffredinol a phenodol ar gyfer y dull cyn ymgymryd ag unrhyw weithgaredd sicrhau ansawdd. Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am y rôl, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych ac yn hapus i gael sgwrs. Cysylltwch trwy e-bostio CRT@qaa.ac.uk a byddwn yn trefnu i aelod o'r tîm ateb naill ai trwy e-bost neu dros y ffôn; nodwch eich dewis.

Sut i wneud cais

Gwerthfawrogir ceisiadau cynnar, er mai’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner-nos ar 20/01/2024. Os cewch eich cynnwys ar y rhestr fer, bydd QAA yn cysylltu â chi ynghylch y camau nesaf yn y broses recriwtio.

Cyflwynwch eich cais trwy ein ffurflen gais ar-lein. Darperir y ffurflen gais hefyd fel dogfen MS Word i'ch galluogi i baratoi eich atebion yn unig. Sylwch, ni fyddwch yn gallu arbed eich cynnydd yn y ffurflen gais ar-lein a dychwelyd ati’n ddiweddarach. Felly, rydym yn eich cynghori i baratoi eich atebion cyn mynd ati i gwblhau'r ffurflen ar-lein.

I wneud cais am y rôl hon, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein.

Os oes angen yr hysbyseb hon a'r Proffil Rôl arnoch mewn fformat neu iaith wahanol i weddu i'ch anghenion, rhowch wybod i ni trwy e-bostio CRT@qaa.ac.uk.

Mae QAA yn cydnabod buddion cadarnhaol cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant. Ein nod yw bod yn wirioneddol gynrychioliadol o bob rhan o gymdeithas, ac i bawb deimlo eu bod yn cael eu parchu, yn rhydd i fod yn nhw eu hunain waeth beth fo'u hunaniaeth neu gefndir, ac yn gallu rhoi o'u gorau. Rydym yn gwerthfawrogi'r gwahaniaethau a ddaw yn sgil amrywiaeth o gefndiroedd, profiadau, safbwyntiau a sgiliau ac rydym yn annog ymgeiswyr â chymwysterau addas yn gryf i wneud cais.

Os nad ydych wedi clywed gan QAA o fewn pedair wythnos i'r dyddiad cau ar gyfer y swydd wag hon, yna ni fu eich cais yn llwyddiannus. Byddwch yn ymwybodol na allwn roi adborth ar geisiadau unigol.