Vicki Stott
Prif Weithredwr
Ar 1 Tachwedd 2021, daeth Vicki yn Brif Weithredwr QAA, ar ôl ymuno â'r Asiantaeth yn 2019 fel Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Dirprwy Brif Weithredwr.
Cyn ymuno â QAA, bu Vicki yn gweithio yng Ngholeg St Hugh, Rhydychen, lle'r oedd hi'n Drysorydd (Prif Swyddog Gweithredu), yn un o gyfarwyddwyr Oxford Limited, St Hugh's Conferences, St Hugh's Estates ac yn un o gyfarwyddwyr sylfaenol NOSCS. Bu hi'n gweithio ym Mhrifysgol Birmingham hefyd fel Cyfarwyddwr Cynllunio Strategol, ac mewn rolau amrywiol ym Mhrifysgol Warwick ac Ysgol Fusnes Warwick. Cychwynnodd ei gyrfa mewn addysg uwch yn UMIST, lle bu'n gweithio ym maes recriwtio myfyrwyr rhyngwladol. Mae gan Vicki brofiad hefyd o weithio yn y sector masnachol a'r sector elusennol. Mae hi wedi rhedeg ei chwmni ei hun ac wedi bod yn gyfarwyddwr elusen yn gweithio gyda menywod a theuluoedd a effeithiwyd gan gam-drin domestig.
Cysylltiadau cyfredol â sefydliadau addysg uwch (ac eithrio gwaith cyflogedig):
Mae un o'i pherthnasau'n astudio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr.
Cysylltiadau â chyrff proffesiynol a chyrff pwnc-benodol:
Mae hi'n aelod o Undeb y Prifysgolion a'r Colegau.