Gweithdrefn Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion QAA
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2023
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth gorau posib, ac i weithio mewn ffordd agored ac atebol. Un o'r ffyrdd yr ydym yn parhau i wella ein gwasanaeth yw drwy wrando ar farn ein haelodau, ein rhanddeiliaid a defnyddwyr ein gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys ymateb yn gadarnhaol i gwynion a chywiro camgymeriadau. Os nad ydych chi'n fodlon â'r gwasanaeth a gawsoch gennym, rhowch wybod i ni.
Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â'r unigolyn rydych wedi bod yn ymwneud ag o/â hi yn QAA, fel bod cyfle ganddo/ganddi i'ch helpu a cheisio datrys y mater. Os nad ydych yn fodlon â'r esboniad a'r penderfyniad a gewch, mae modd i chi gysylltu â Thîm Llywodraethu QAA i gyflwyno cwyn ffurfiol.
Mae gennym weithdrefn gyhoeddedig sy'n nodi canllawiau i sicrhau bod canmoliaeth, sylwadau a chwynion a dderbynnir gan QAA yn cael eu trin gyda chwrteisi, parch a thegwch.
Byddwn mewn sefyllfa well i ymateb i'ch cwyn os byddwch yn ei gwneud yn brydlon, gan gyflwyno tystiolaeth ategol ochr yn ochr â hi. Nodwch y maes, ynghyd â dyddiad ac amser y digwyddiad y mae eich cwyn yn ymwneud ag o, a rhowch dystiolaeth ategol ac unrhyw wybodaeth berthnasol am gyfathrebiadau a gafwyd rhyngoch chi â ni yn ymwneud â'r mater.
Byddwn yn:
Ein hegwyddor wrth wneud ein gwaith yng Nghymru yw y byddwn yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal ac yn bodloni'r Hysbysiad Cydymffurfio a roddwyd i ni mewn perthynas â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Felly, byddwn yn ymdrin ag unrhyw gwynion a dderbyniwn am y ffordd yr ydym yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn y meysydd cyflenwi gwasanaethau, gweithredu a llunio polisi yr ydym wedi ein hymrwymo iddynt, fel y maent wedi eu nodi yn y weithdrefn hon, p'un a ydym wedi derbyn y gŵyn yn y Gymraeg neu'r Saesneg, a byddwn yn ateb yn yr iaith y cyflwynwyd y gŵyn ynddi, oni bai bod yr achwynydd yn nodi y byddai'n hoffi derbyn ateb yn yr iaith arall.
Mae'r wybodaeth gyflawn yn ein gweithdrefn isod.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2023
Mae gan QAA hefyd gynllun cyhoeddi gwybodaeth a gweithdrefn ar gyfer ceisiadau gwrthrych am wybodaeth, sydd ar gael ar ein tudalen we am ein polisïau.
Mae QAA yn diffinio cwynion fel mynegiant gan unigolion o'u hanfodlonrwydd â'r profiad a gawsent wrth ymwneud ag QAA. Gallent wneud cwynion ar ran eu sefydliad. Mae cwynion yn wahanol i apeliadau a gosodiadau, lle bydd sefydliad yn herio canlyniad adolygiad QAA neu benderfyniad arall a wnaed gan QAA.