11 Hydref 2023
Ymgolli mewn Dysgu Drwy Drochi!
Y Gydweithfa Gymreig: Gwella Dysgu ac Addysgu Digidol
Awdur
Steph Tindall
ennaeth Datblygu Ymarfer Addysgol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Ar 21ain Mehefin, diolch i Brosiect Gwelliant Cydweithredol QAA Cymru a ariannwyd gan CCAUC, daeth grŵp unigryw o addysgwyr a oedd yn rhannu diddordeb mewn dysgu drwy drochi at ei gilydd, a phenderfynwyd galw’r fenter yn Gydweithfa Gymreig.
Roedd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o arwain y digwyddiad, mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Cynrychiolwyd pob prifysgol yng Nghymru gan gynnwys y Brifysgol Agored, a chafwyd cyflwyniad gan bob un ar ble'r oeddent wedi cyrraedd a’r hyn roeddent yn gweithio arno mewn perthynas â'r gofod dysgu drwy drochi sy'n datblygu'n gyflym iawn. Fodd bynnag, yr hyn a oedd fwyaf cyffrous am y digwyddiad rhannu a dysgu hwn oedd bod yr holl golegau addysg bellach yng Nghymru hefyd wedi’u gwahodd i fynychu ac anfonodd 10 allan o 12 ohonynt un o’u cydweithwyr.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyfle i rwydweithio ar y noson cyn y digwyddiad ei hun. Bu hyn yn effeithiol iawn wrth i gyflwyniadau gael eu gwneud a pherthnasoedd eu ffurfio; cafodd hyn effaith gadarnhaol ar lefelau ymgysylltu yn y digwyddiad, yn ogystal ag arbed amser wrth ddod i adnabod pawb ar y diwrnod.
Treuliwyd rhan gyntaf y diwrnod mewn arddangosiad o ystafell ddosbarth drochi LED newydd PCyDDS, a wnaeth argraff ffafriol ar bawb (dim rhagfarn!), gan ysgogi trafodaethau diddorol, yn ogystal â gosod y cefndir ar gyfer y diwrnod.
Yn ôl y disgwyl mewn digwyddiad rhannu a dysgu, bu cryn lawer o rannu a dysgu! Roedd yn wych clywed gan Dr Huw Williams o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd a sut maent yn defnyddio Ysbyty Rhithwir Cymru yn eu rhaglen MBBCh Meddygaeth. Ysbrydolwyd y grŵp hefyd gan Dr Stephen Atherton a Dr Jim Woolley o Brifysgol Aberystwyth, a rannodd eu taith rith-realiti â phensetiau, yn ogystal â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Aeth Ben Morris a Callie Palmer o Brifysgol De Cymru gam ymhellach drwy ddod â'u hefelychydd dynol VR i bawb roi cynnig arno yn yr egwyl goffi (er i ni gael ambell olwg rhyfedd gan deithwyr eraill ar y trên i lawr i Abertawe), yn ogystal â'u cyflwyniad ar sut maent yn defnyddio datblygiadau digidol arloesol i gynorthwyo â dysgu gweithdrefnau nyrsio. Aeth Dr Rebecca Jones â ni ar daith maes ddaearyddol gyda’i datblygiad uchelgeisiol o ddefnyddio rhith-wirionedd mewn gwaith maes daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Hefyd dangosodd Steve Osborne o Brifysgol Metropolitan Caerdydd pa mor allweddol yw dilyniant mewn dysgu drwy drochi i sgiliau cyflogadwyedd, gyda’r potensial o gysylltu â micro-gymwysterau. Rhannodd Gareth Evans o Ganolfan Arloesedd Adeiladu Cymru ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant eu prosiect VR arloesol sy’n cael effaith ar ddysgwyr ym maes adeiladu mewn AB ac AU ledled Cymru . Rhoddodd Nathan Roberts gipolwg i ni ar ddyfodol gofal iechyd, gyda’r datblygiadau y mae Glyndŵr Wrecsam yn eu cyflawni o ran troshaenau o organau mewnol a sganiau meddygol, i enwi dim ond un enghraifft a rannodd. Ym maes iechyd hefyd, gwnaeth yr Athro Cyswllt Jo Davies argraff ar bawb gyda'r cyfleuster dysgu drwy drochi gwerth miliynau o bunnoedd, sy'n gartref i wyth o ystafelloedd dysgu drwy drochi, ym Mhrifysgol Abertawe. Yn olaf ond nid lleiaf, aeth Tim Seal, Francine Ryan a Jon-Paul Knight â'r grŵp i'r byd rhithwir yn y Brifysgol Agored, o ymweliadau cartref rhithwir ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol i lys barn rithwir lle gall cyfranogwyr ryngweithio ag eraill. Byddwch yn falch o glywed y bydd yr astudiaethau achos hyn ar gael i'w darllen ar wefan QAA yn ddiweddarach eleni.
Daeth y diwrnod i ben gyda gweithdy i drafod ein dyfodol digidol, gyda diolch i Steve Osborne o Brifysgol Metropolitan Caerdydd am hwyluso ac ysbrydoli trafodaethau, gan ddefnyddio Fframwaith Jisc ar gyfer Trawsnewid Digidol mewn Addysg Uwch fel teclyn ar gyfer camau nesaf cydweithredol posibl.
Roedd dau uchafbwynt i’r diwrnod. Y cyntaf oedd pa mor wych oedd dod ag AB ac AU Cymru at ei gilydd, gan wella trafodaethau ac annog sgyrsiau newydd rhwng prifysgolion a cholegau yn yr un rhanbarth daearyddol o Gymru. Yr ail oedd bod y grŵp yn awyddus i barhau fel rhwydwaith, gyda phob sefydliad oedd yn bresennol yn ymrwymo i gymryd rhan mewn gweithgarwch cydweithredol yn y dyfodol i wella dysgu ac addysgu digidol. Roedd brwdfrydedd aruthrol i ffurfio partneriaethau yn y gofod a’r diwylliant digidol hwn.
Rydym yn cydnabod y bydd ein deilliannau a'n cynnyrch terfynol yn amrywio, ac rydym hefyd yn cydnabod ein bod mewn 'cystadleuaeth ddigidol’ o ran rhai agweddau o’r hyn a wnawn. Serch hynny, rydym am deithio gyda'n gilydd ar y ffordd ddysgu drwy drochi (sydd heb derfyn cyflymder ar hyn o bryd!) gan rannu a dysgu oddi wrth ein gilydd a chyfnewid gwybodaeth, profiad ac arbenigedd. Yn wir, gallem deithio'r gofod hwn ar wahân ond fe'm hatgoffir o ymweliad diweddar â'r optegydd, lle rhoddodd yr optegydd nifer o lensys gwahanol o flaen fy llygaid gyda'r cwestiwn 'yn well gyda? neu 'yn well heb?'. Felly drwy lens cydweithio ystyrlon, dywedaf 'yn well gyda' ac edrychaf ymlaen at ddyfodol y Gydweithfa Gymreig. Cadwch lygad allan am ddatblygiadau!
#addysguwch #addysgbellach #gweithiogydangilydd