9 Ionawr 2024
Y sector addysg uwch yng Nghymru ar flaen y gad gyda’i ymagwedd a arweinir gan welliant at Adolygu Gwella Ansawdd
Author
Athro Nichola Callow
Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg), Prifysgol Bangor
Yn 2024, bydd QAA yn cyflwyno proses newydd ar gyfer Adolygu Gwella Ansawdd yng Nghymru. Dyma'r Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg) ym Mhrifysgol Bangor, yn myfyrio ar fanteision y broses newydd mewn blog arbennig.
Eleni bydd Cymru’n gweithredu methodoleg newydd ar gyfer ei hadolygiadau ansawdd sefydliadol allanol, gyda'r fethodoleg newydd hon yn gosod y sector addysg uwch yng Nghymru ar flaen y gad o ran dull a arweinir gan welliant, sydd er budd myfyrwyr yn y pen draw, trwy ddarparu profiad dysgu o’r ansawdd uchaf.
Cyn manylu ynghylch sut mae Cymru wedi cyflawni hyn, mae’n werth tynnu sylw at beth yw Adolygiad Gwella Ansawdd (QER). QER yw’r dull a ddefnyddir gan QAA i adolygu a sicrhau ansawdd darparwyr addysg uwch yng Nghymru, fel rhan o’r Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru – mae’n fodd o brofi bod darparwyr yn bodloni gofynion y rheoleiddiwr, sef Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
Yn hollbwysig, mae hefyd yn gwirio bod darparwyr yn cydymffurfio ag arfer da a gytunwyd yn rhyngwladol, fel yr amlinellir yn y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd.
Er y bydd y dull newydd yn parhau i ddarparu sicrwydd ansawdd, bu - fel y gwelwyd yn yr Alban hefyd - symudiad amlwg tuag at wella ansawdd gyda ffocws ar ddefnyddio tystiolaeth i gynllunio, gweithredu a gwerthuso camau bwriadol â’r nod o wella profiad dysgu myfyrwyr.
Datblygwyd y dull newydd a’r Llawlyfr Adolygu Gwella Ansawdd cysylltiedig ar gyfer Cymru mewn cydweithrediad â’r sector yng Nghymru trwy weithdai rhanddeiliaid, cyfarfodydd cydlynu sefydliadol gyda darparwyr, goruchwyliaeth gan grŵp cynghori allanol, ac ymgysylltu â grwpiau sector. Ymgynghori allanol oedd cam olaf y broses o fireinio'r llawlyfr ar gyfer y dull adolygu. Trwy hyn, gwrandawyd ar fuddiannau'r holl gyfranogwyr a'u hystyried yn ofalus, gyda'r fethodoleg yn cael ei chryfhau a'i gwella wedyn trwy ymrwymiad gwirioneddol ar y cyd i welliant parhaus.
Mae’n werth nodi cyfranogiad myfyrwyr yn y broses hon, gan arwain at ddewis o ran sut y maent yn cyfrannu at yr elfen ysgrifenedig o gyflwyniad eu darparydd. Gall fod yn gyflwyniad ar y cyd neu un ar wahân, a gall fod iddo wahanol fformatau, megis astudiaethau achos dan arweiniad myfyrwyr, cyfres o sylwadau byr neu fideo/podlediad.
Bydd undebau myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i weithio ochr yn ochr â QAA a'u darparydd, gan gynrychioli myfyrwyr ar lefel sefydliadol. Byddant yn ganolog i gefnogi cynlluniau gweithredu ar gyfer gwelliant parhaus y darparydd, a gaiff eu drafftio ar ôl i QAA gyhoeddi eu hadroddiad adolygu ar bob un o'r darparwyr addysg uwch yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y cynlluniau gweithredu hyn yn cael eu diweddaru bob blwyddyn ac yn cynnwys mewnbwn gan yr undeb myfyrwyr priodol, gyda'r broses hon yn cael ei hailadrodd yn flynyddol nes bod yr holl gamau gweithredu a argymhellir wedi'u cwblhau.
Sut felly y byddwn yn gallu dangos bod y ffordd newydd hon o weithio yn llwyddiannus ac wedi arwain at newid gwirioneddol? Fel arwydd allweddol o lwyddiant, dylai pob darparydd deimlo’n hyderus y gallant fod yn onest ynghylch eu sefyllfa o ran eu blaenoriaethau strategol a’r modd y maent yn cyflawni gwelliant. Hefyd bod adolygwyr, yn eu tro, yn croesawu’r gonestrwydd hwnnw’n ddidwyll ac yn yr ysbryd o fod yn rhan o dîm gwirioneddol golegol gyda nod cyffredin o welliant. Mae cael hyn wedi’i wreiddio yn y fethodoleg ar gyfer Adolygiad Gwella Ansawdd yn gam cyntaf cryf, ac mae’n enghraifft o’r arfer effeithiol y mae dull a arweinir gan welliant wedi dod i’w nodweddu.
Fel darparydd, roedd yn wych gweld y dull hwn yn parhau yn y Gynhadledd Baratoi ar gyfer QER a gynhaliwyd ag 8fed Rhagfyr 2023.* Yn y digwyddiad hwn buom yn trafod materion megis yr her o ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen mewn 20 tudalen i sicrhau bod y panel QER yn cael dealltwriaeth fanwl o gyd-destun a blaenoriaethau'r sefydliad y maent yn ei adolygu. Hefyd hyfforddi adolygwyr i sicrhau bod yr adolygiadau'n gyson ar draws darparwyr, yn enwedig gan y bydd llawer o'r adolygwyr wedi arfer â methodoleg wahanol, yn ogystal â sut i ymdrin â phontio rhwng swyddogion undeb myfyrwyr a allai newid yn ystod y paratoadau, a all gymryd cymaint â blwyddyn, ar gyfer yr ymweliad QER, mewn ffordd wirioneddol agored, gydweithredol a datblygiadol.
Os bydd yn llwyddiannus, gallai’r fethodoleg newydd hon fod nid yn unig yn ddull newydd cyffrous o gydweithio yng Nghymru, ond hefyd fod yn enghraifft o’r math o arfer gwella ansawdd y mae sefydliadau addysg uwch ledled y byd yn anelu ato. Trwy wrando ar y sector a myfyrwyr, nod ein methodoleg adolygu ansawdd newydd yw ceisio cyfrannu at fodel partneriaeth gynaliadwy sydd wedi’i gynllunio i gefnogi a hyrwyddo arloesedd, gwelliant, a thwf cymunedau deinamig o arferion gwella ansawdd, o fewn ac ymhell y tu hwnt i’n cyrraedd daearyddol ni, er budd y sector addysg uwch a graddedigion y dyfodol.