Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

01 Mehefin 2022


Hawlio’n ôl ymgysylltiad â myfyrwyr: Blwyddyn gyntaf agwedd gydweithredol o Gymru





Author



Dr Myfanwy Davies

Pennaeth Gwella Ansawdd, Prifysgol Bangor

Dr Myfanwy Davies yw Pennaeth Gwella Ansawdd ym Mhrifysgol Bangor Arweiniodd Dr Davies un o Brosiectau Gwelliant Cydweithredol cyntaf QAA Cymru ar y cyd â Grŵp Llandrillo Menai, oedd â phwyslais ar Ymgysylltiad Myfyrwyr mewn Dysgu. Ewch i dudalen y prosiect am y canfyddiadau llawn hyd yma.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf o weithgarwch addysgu dwys, mae chwyldro tawelach wedi digwydd ym maes rheoleiddio Prifysgolion ar draws y DU. Yng Nghymru, rydym wedi symud tuag at ddull sy’n canolbwyntio mwy ar welliant, gyda rheoleiddiwr Cymru, CCAUC, yn cyhoeddi’n ddiweddar eu bwriad i gryfhau’r ffocws ar welliant yn eu hadolygiadau a datblygu gweithgarwch ansawdd ar y cyd ledled Cymru a chyda'r Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Mae'r dull newydd yn adlewyrchu'r hyn sydd wedi bod yn yr Alban ers bron i 20 mlynedd, lle mae gwelliant yn ymwneud â gweithgareddau wedi'u cynllunio'n dda, sydd â’r nod o geisio gwella profiad myfyrwyr, ynghyd ag ymrwymiadau i werthuso ac ymdrechion cydweithredol i ysgogi gwelliannau ar draws y sector. Gyda'r datblygiadau hyn mewn golwg, lansiodd QAA Cymru rownd gyntaf o brosiectau gwelliant cydweithredol wedi’u hariannu yng ngwanwyn 2021.

 

Roedd trafodaethau yn Rhwydwaith Ansawdd Cymru (RhAC) QAA wedi canolbwyntio ar ddulliau hyblyg o gydweithio a rhannu gwybodaeth mewn ymateb i'r pandemig. Roeddem am adeiladu strwythur cydweithredol cryf i ddatblygu'r prosiectau gwelliant cyntaf ac i olrhain yr hyn roeddem ni wedi’i wneud yn systematig. Gan ddefnyddio dull Cymuned Arfer, y bwriad oedd ystyried tystiolaeth, datblygu a thrafod ymchwil, yn ogystal â datblygu a phrofi ymyriadau ar sail yr ymchwil. Roedd trafodaethau cynnar yn canolbwyntio ar ymgysylltu â myfyrwyr fel thema a fyddai o ddiddordeb i'r rhan fwyaf o sefydliadau.

 

Lluniwyd crynodeb o ymchwil ar ymgysylltiad myfyrwyr, ac fe'i rhannwyd â'r Rhwydwaith. Roedd yn dangos tueddiad cryf i hyrwyddo dysgu gweithredol. Roedd diddordeb eang mewn gwelliant, ond roedd y sylfaen ymchwil yn fach gydag adolygiad diffiniol yn canfod dros 21,000 o eitemau i ddechrau; dim ond 2% o’r rhain oedd yn bodloni meini prawf o ran ansawdd, megis adrodd ar y sampl, dulliau a deilliannau. Cytunodd yr aelodau i ystyried eu hanghenion sefydliadol eu hunain ac a fyddent o bosib yn addas ar gyfer ffocws eang ar ymgysylltiad myfyrwyr.

 

Ym Mhrifysgol Bangor, ffurfiwyd grŵp yn cynnwys cynrychiolydd o’r UM, Rheolwr Llais y Myfyrwyr, academydd ar secondiad, fi a’n Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu ac Addysgu. Roedd gennym ddiddordeb i ddechrau mewn ymgysylltiad myfyrwyr o ran profiadau myfyrwyr o addysgu oddi ar y campws. Ond o’i ddadansoddi, daethom i’r casgliad fod hyn yn golygu pethau gwahanol i bob un ohonom. A oedd yn golygu bod yn bresennol, boed hynny ar-lein neu wyneb-yn-wyneb? A oedd yn golygu cyflwyno gwaith neu wneud yn dda neu gael ymdeimlad o gymuned neu ddarganfyddiad academaidd? A oedd yn golygu bod yn rhan o wneud penderfyniadau a llywodraethiant?

 

Mae ein cymdogion a’n cydweithwyr hirdymor yn y sector AU mewn AB, Grŵp Llandrillo-Menai, hefyd wedi penderfynu archwilio ymgysylltiad myfyrwyr. Eu blaenoriaeth oedd mynd i'r afael â materion dargadwedd a dilyniant oedd yn deillio o'u hymrwymiad eithriadol i ehangu mynediad. Dyfeisiwyd astudiaeth ag iddi sawl elfen, a’r gobaith oedd y byddai hynny'n ein helpu i ddeall yr anawsterau penodol o ran ymgysylltu’n well o fewn amserlen fer.

 

Fe wnaethom driongli data arferol gan gynnwys gweithgaredd Amgylchedd Dysgu Rhithwir, Google meet, Active Classrooms, ap presenoldeb ac enghreifftiau o gipio darlithoedd ar gyfer y ddau safle ac ar draws pob disgyblaeth. Ym mhob achos, canfuwyd darlun clir o ymgysylltiad cychwynnol uchel ac yna uchafbwyntiau llai yn union cyn yr asesiad, a oedd yn awgrymu y gellid defnyddio mentrau asesu ac adborth i addasu mynediad myfyrwyr at adnoddau.

 

Daeth cyswllt anffurfiol â myfyrwyr eraill i drafod ac ymrwymo i ddysgu i'r amlwg fel prif ffocws yr astudiaeth gyfweld. Byddai myfyrwyr prifysgol yn profi eu dealltwriaeth o syniadau newydd, yn rhoi cynnig ar ymagweddau at aseiniadau, ac yn mynd ati i drafod adborth ac arholiadau gyda’u cyfoedion. Byddai myfyrwyr yn y grŵp AU mewn AB a fyddai’n rhoi cynnig ar syniadau ymysg ei gilydd, weithiau’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac yn gwirio eu dealltwriaeth gyda staff. Roedd rôl y staff fel catalyddion ar gyfer hyder myfyrwyr ac ymrwymiad i ddysgu ac wrth hyrwyddo dargadwedd a pharhad yn benodol i'r grŵp AU mewn AB. Roedd myfyrwyr yn y grwpiau Prifysgol yn ymwybodol o hoffter am wahanol arddulliau dysgu; nid oeddent yn hoffi gwaith grŵp ac roeddent yn credu y dylai'r Brifysgol gynllunio cyrsiau ar gyfer amrywiaeth o arddulliau dysgu.

 

Ein prif nod ar gyfer blwyddyn gyntaf y prosiect oedd canfod yr ymyriadau hynny oedd â thystiolaeth dda o lwyddiant. Cynhaliwyd chwiliad gan ddefnyddio termau sy'n ymwneud â holl brif gydrannau ymgysylltiad myfyrwyr fel y nodwyd gan ein trafodaethau a'r adolygiad a drafodwyd uchod. O ychydig llai na 1,000 o bapurau ac adroddiadau, nododd 75 ymyriadau o ansawdd da.

 

Roedd ychydig llai na hanner y rhain yn canolbwyntio ar ddulliau a arweiniwyd gan ddarlithwyr. Roedd y rhain yn ymwneud ag arloesedd mewn asesu ac adborth a dysgu gweithredol. Roedd grŵp sylweddol arall yn mesur effeithiau dysgu ar-lein ar gyrhaeddiad myfyrwyr a rhyngweithio mewn grwpiau. Defnyddiwyd ymyriadau oedd yn cynnwys hunanfyfyrio i wella perfformiad myfyrwyr, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth myfyrwyr o'u harddulliau dysgu a'r defnydd effeithiol ohonynt. Roedd eraill yn rhoi sylw i effeithiau'r berthynas rhwng staff a myfyrwyr ar gyrhaeddiad a chynhwysiant neu’n cyfeirio at gymorth ychwanegol wedi'i ddarparu i fyfyrwyr y nodwyd eu bod mewn perygl o gyrhaeddiad isel neu o beidio â chwblhau’r cwrs.

 

Rydym yn dal i weithio trwy ein llyfrgell, sydd bellach yn cynnwys 50 o astudiaethau, yn rhestru ymyriadau yn ôl eu diwyg a thystiolaeth o’u heffeithiolrwydd. Rydym wedi trefnu’r ymyriadau yn ôl y cwestiynau y maent yn eu hateb yn hytrach na’r honiadau a wnaed. Mae'r grwpiau mwyaf yn hyrwyddo cyrhaeddiad myfyrwyr neu'n addasu canfyddiadau myfyrwyr ynghylch dysgu o ansawdd, teimladau o berthyn neu gynhwysiant.

 

Byddwn yn cynhyrchu ac yn dosbarthu pecyn cymorth o’r ymyriadau sydd â’r dystiolaeth orau oll o ran llwyddiant ac yn dychwelyd at RhAC i drafod sut y gallent gydweddu â’n hanghenion sy’n newid o hyd, a chael eu cyflwyno a’u profi ar raddfa ehangach. Bydd datblygu gwerthusiadau traws-sefydliadol o ymyriadau sydd eisoes â thystiolaeth dda yn darparu lefel newydd o fanyldeb i'r llenyddiaeth.

 

Fel partneriaid mewn menter gydweithredol ar y cyd ac ar draws Cymru gyfan, rydym wedi dysgu cwestiynu ein rhagdybiaethau am gysyniad allweddol, er mwyn edrych o’r newydd ar ein blaenoriaethau ac i groesawu arbenigedd newydd. Gan weithio fel rhan o grŵp o 8 prifysgol, a gyda’n partneriaid AU mewn AB, gallwn gyflawni newidiadau diriaethol ar raddfa eang i helpu myfyrwyr i ddysgu’n fwy effeithiol a bod yn hyderus yn eu dysgu a’u gwerth fel dysgwyr.