Gweithio'n fach – a meddwl yn fawr
Awdur
Steve Osborne
Brif Ddarlithydd mewn Datblygiad Proffesiynol a Gweithle ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae Steve Osborne yn Brif Ddarlithydd mewn Datblygiad Proffesiynol a Gweithle ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac mae'n cadeirio Grŵp Diddordeb Arbennig micro-gymwysterau QAA – rhwydwaith trydyddol ar draws Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a ariennir gan Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru.
Yn wreiddiol, dechreuais ymddiddori ym myd micro-gymwysterau trwy fy ngwaith ym maes cyflogadwyedd a datblygiad proffesiynol. Symudais i addysg uwch yn dilyn gyrfa mewn swyddi rheolaeth yn y diwydiannau chwaraeon – ac rwyf wedi bod â diddordeb ers amser maith mewn strategaethau i gynorthwyo â datblygu’r gweithlu ac i fynd i’r afael â’r hyn yr oeddem yn arfer ei alw’n fylchau sgiliau – ond rydym bellach yn meddwl amdanynt mewn ffordd fwy defnyddiol fel diffyg cydweddiad rhwng sgiliau a gwybodaeth.
Beth ydych chi'n ei wneud er enghraifft, pan fyddwch chi fel arbenigwr cymwys a phrofiadol iawn mewn unrhyw beth o wyddor chwaraeon i ddaeareg, yn cael eich dyrchafu i swydd uwch weithredol yn eich sefydliad ac yn sydyn yn rheoli niferoedd mawr o bobl a chyllidebau mawr, neu'n gweithio i fynd i'r afael â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol cymhleth?
Rhwng 2017 a 2020, roeddwn yn gweithio gyda chydweithwyr academaidd eraill a’r Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA) i drafod sut y gallem gynorthwyo’r gweithlu presennol i gael mynediad at fathau o hyfforddiant sy’n briodol i gyflawni rolau newydd – a’r trafodaethau hyn a'm harweiniodd yn syth i fyd micro-gymwysterau.
Po fwyaf y gwnes i archwilio a dod i ddeall y byd hwn, y mwyaf y dechreuais weld aliniadau gyda fy ngwaith fy hun ym maes rheoli chwaraeon.
Felly, mewn ymateb i alwad am gyllido a ryddhawyd gan CCAUC, cefnogais uwch reolwyr yn fy mhrifysgol i lunio cynnig i ddatblygu gwaith archwiliadol yn y maes hwn.
Ar yr un pryd, roeddwn wedi bod yn arwain prosiect cydweithredol Ewropeaidd ERASMUS+ gyda Phrifysgolion Ewropeaidd a sefydliadau Cyflogwyr yn archwilio datblygu gweithlu rheoli chwaraeon ac anghysondebau sgiliau tebyg i’r rhai a welwn yng Nghymru a ledled y DU.
Roedd ein prosiect, a ariannwyd gan CCAUC, yn cydnabod yn fwriadol y byddai datblygu’r math hwn o ddarpariaeth yn gofyn am ddull cam-wrth-gam. Fe ofynnon ni i'n hunain, sut y gallai sefydliad addysg uwch gynllunio a chyflwyno darpariaeth ficro-gymwysterau a allai dyfu yn y pen draw i fod yn gymhwyster 'macro' ardystiedig?
Roedd yn amlwg mai'r peth cyntaf y byddai ei angen arnom fyddai datblygu glasbrint cadarn, un a oedd yn cwmpasu rheoliadau, prosesau ansawdd a strategaethau adnoddau - o ddulliau cyflwyno hyd at drwyddedu deunyddiau llyfrgell a mecanweithiau ar gyfer cymorth myfyrwyr.
Roedd o help mawr, ar yr adeg pan oedd ein prosiect wedi mynd yn fyw, fod QAA wedi cyhoeddi eu Datganiad Nodweddion ar gyfer micro-gymwysterau. Mae CCAUC – a Medr bellach – wedi datgan y dylai gofynion Rheoleiddiol Sylfaenol ar gyfer addysg uwch ymgynghori â’r holl Ddatganiadau Nodweddion. Yn sgil hyn, bu adolygu’r datganiad hwn cyn gynted ag y’i rhyddhawyd o gymorth i ni i gynllunio sut y byddem yn rheoli'r penderfyniadau y byddai angen i ni eu gwneud – a rhoddodd arweiniad i ni y gallem ei archwilio a'i brofi wrth i ni ddatblygu ein hymagweddau at y ddarpariaeth hon.
Y peth cyntaf a wnaethom oedd dadansoddi ein persbectif ar brosesau ansawdd, gan ddychwelyd at rai egwyddorion hanfodol.
Cam un o hyn oedd sicrhau y dylai datblygiad unrhyw ficro-gymwysterau fod yn seiliedig ar ddadansoddiad cydlynol o anghenion. Dylai’r rhesymeg dros unrhyw ddarpariaeth o’r fath – a’i dull cyflwyno a’i hadnoddau – fod yn seiliedig ar realiti’r galw yn y farchnad yr ymchwiliwyd iddo.
Cyflwynwyd ein hastudiaethau peilot, a gyflawnwyd gyda chymorth cyllidol gan CCAUC, ym meysydd rheoli chwaraeon ac wrth archwilio eu potensial gyda chyflogwyr ac asiantaethau cysylltiedig ag iechyd a gofal cymdeithasol.
Y farchnad yn y meysydd hyn oedd yn pennu'r dull cyflwyno, yr adnoddau a'r mecanweithiau cymorth a fyddai'n briodol ar gyfer pob maes darpariaeth. Roedd graddfa’r galw posibl yn y naill sector a’r llall yn amlygu’r angen am ddatblygu rhaglenni newydd, ond byddai dull y ddarpariaeth (ar-lein yn hytrach nag wyneb-yn-wyneb neu’n gymysg) yn cael ei bennu gan y gweithlu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a chrynodiadau o alwedigaethau.
Gofynnodd ail gam ein cynllun peilot sut yr ydych yn ymwneud â’r prosesau a’r gweithdrefnau sydd gan sefydliad eisoes ar gyfer pob ffurf arall o ddarpariaeth, ac yn eu haddasu. Roedd hyn yn cynnwys popeth o brotocolau cymeradwyo a strwythurau sicrhau ansawdd a gwelliant parhaus i fframweithiau rheoleiddio. Sut, er enghraifft, ydych chi'n integreiddio i fecanweithiau llais myfyrwyr y dysgwyr hynny a allai dreulio ychydig fisoedd yn unig yn astudio gyda chi? A sut ydych chi'n mesur effeithiau a chanlyniadau graddedigion?
Yna mae angen i chi ystyried adnoddau a chymorth i fyfyrwyr – popeth o iechyd meddwl a chymorth ariannol i fynediad at adnoddau TG a llyfrgell. Hefyd sut ydych chi’n mynd ati i sefydlu a dyrannu’r adnoddau hynny’n gymesur, a gwneud iddynt weithio, ar gyfer dysgwr a fydd, o bosib, ond gyda chi am 12 wythnos?
Roedd hyn oll, wrth gwrs, yn golygu bod angen llawer iawn o ymgynghori, trafod a negodi. Buom yn ffodus i gael gafael ar rai aelodau staff gwasanaethau proffesiynol, staff academaidd ac uwch reolwyr talentog iawn oedd yn barod i chwilio am ddatrysiadau arloesol a chraffu ar ein hymdrechion wrth i ni symud tuag at ddatrysiadau ymarferol y gellid eu gwerthuso.
Wrth i ni fynd ati i gyflwyno'r ddarpariaeth hon, a'i gwerthuso a'i gwella, fe wnaethom ddarganfod gwir werth parhaus ein dadansoddiadau cychwynnol o anghenion a'n hymgynghoriadau â chyflogwyr.
Yr hyn sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf o’n profiad o’r ddarpariaeth hon a’n hymgysylltiad â diwydiant yw pwysigrwydd cynnig digon o hyblygrwydd i arwain a chefnogi gweithwyr tuag at ddatblygu cymwysterau dros amser – a’r gallu i bentyrru micro-gymwysterau’n raddol i ffurfio macro-gymwysterau.
Mae hyn yn gofyn am y gallu o fewn darparwyr, yn ogystal â rhwng darparwyr, i gynorthwyo â chronni a throsglwyddo credydau trwy gydnabod dysgu sy'n dwyn credydau blaenorol a dysgu trwy brofiad blaenorol. Mae rheoliadau llawer o sefydliadau eisoes yn darparu ar gyfer hyn.
Mae cyflogwyr a gweithwyr wedi bod â diddordeb arbennig mewn achredu profiad dysgu anhraddodiadol (a elwir yn Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol trwy Brofiad, neu RPEL) – ffordd o ddilysu blynyddoedd o brofiad proffesiynol. Mae'r broses hon yn tueddu i ofyn i'r dysgwr gyflwyno portffolio sy'n dangos sut yr aethant ati i fodloni deilliannau dysgu'r modiwl perthnasol trwy dystiolaeth o brofiad proffesiynol ac adroddiad myfyriol. Mae'n ymwneud ag annog dysgwyr a hwyluso eu dysgu trwy osgoi dyblygu ymdrech ac astudio yn ddiangen.
Mae hyrwyddo strategaethau trosglwyddo credydau cydlynol ac integredig wedi'i hwyluso gan ffocws cyhoeddiadau diweddar QAA ar y pwnc hwn - ac rydym bellach yn gweld darparwyr yn cydweithio fwyfwy yn y maes hwn i symud tuag at gysoni rheoliadau ac ymagweddau at ymdrin â fframweithiau credyd.
Rydym wedi gweld y math hwn o gydweithio o'r blaen mewn perthynas â chymwysterau traddodiadol – 'macro' – felly nid oes unrhyw reswm pam na all weithio ar gyfer darpariaeth micro-gymwysterau.
Ond dylem gydnabod nad yw'r trefniadau hyn ar gyfer cydweithredu rhwng sefydliadau bob amser yn hawdd, ac mae angen i ni barhau i gael y sgyrsiau hyn ynghylch sut yr ydym yn cysoni ein hymagweddau at ficro-gymwysterau mewn ffyrdd cyson a chydlynol. Gallai cynnwys cyrff proffesiynol mewn meysydd pwnc penodol hefyd helpu i alinio’r prosesau hyn.
Dylai'r sgyrsiau a'r trefniadau cydweithredu hyn ddigwydd ar draws y sector trydyddol cyfan a'i amrywiaeth o ddarparwyr. Rydym hefyd eisoes yn dechrau edrych y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol, gan archwilio sut y gallai strategaethau cysoni o'r fath weithio ledled Ewrop. Mae diddordeb gwirioneddol mewn bwrw ymlaen â hyn, ac ewyllys i wneud iddo ddigwydd.
Yn wir, mae micro-gymwysterau yn fyd-eang. Mae’n bosib y bydd angen llawer mwy o waith y tu allan i Ewrop, ond mae yna awydd cryf – yn enwedig pan fyddwn yn ystyried twf darpariaeth ar-lein – ac yn arbennig (i’r rheiny ohonom mewn gwledydd sy’n siarad Saesneg) o ran partneriaethau trawsiwerydd a chydweithio â sefydliadau yn Awstralia.
Mae yna gryn ddiddordeb o'r fath ar draws y byd. Dyna un rheswm pam y gwnaethom ffurfio Grŵp Diddordeb Arbennig Micro-gymwysterau QAA – i ysgogi a chefnogi'r sgyrsiau hynny.
Mae datblygiadau diweddar mewn strategaeth ddiwydiannol, ar draws gwledydd y DU a ledled y byd, wedi gwneud y sgyrsiau hynny’n fwy perthnasol gan gyflymu’r angen amdanynt. Rydym yn mynd trwy gyfnod o ailstrwythuro diwydiannol, wedi'i ysgogi gan ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd datblygu cynaliadwy a thechnolegau newydd, yn fwyaf amlwg deallusrwydd artiffisial. Bydd angen cymwyseddau a setiau sgiliau newydd ar ein gweithluoedd nad ydynt yn bodoli ar hyn o bryd. Bydd mynediad at addysg a chymwysterau hyblyg o ansawdd uchel yn hollbwysig.
Wrth gwrs, ni fydd micro-gymwysterau yn gallu ateb yr holl ofynion hyn. Ond byddant yn chwarae rhan arwyddocaol mewn fframwaith datblygiad proffesiynol cyfannol ehangach - un sy'n gorfod cwmpasu'r gwahanol fathau o ddysgu ffurfiol, anffurfiol a thrwy brofiad.
Bydd diffinio'n glir beth yw micro-gymwysterau - a'r hyn nad ydyn nhw - yn parhau i fod yn hanfodol i ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr. Mae’r eglurder hwnnw’n allweddol: mae angen i ni weithio’n sensitif ac ar y cyd fel addysgwyr i wneud hyn yn hawdd i bawb ei ddeall.
Dyna un o'r heriau mwyaf i ddarparwyr – ac i lunwyr polisi.
Rhaid i addysg uwch gyfathrebu’n effeithiol â llywodraethau, diwydiant, dysgwyr a darpar ddysgwyr er mwyn dynodi’r galw – ac yna i drawsnewid y galw hwnnw yn effaith barhaol a chadarn.