Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Ym mis Awst 2021, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sicrhau ymrwymiad llawn i Siarter Uniondeb Academaidd QAA. Ym mis Medi 2021, sefydlwyd Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru (RhUAC) a ariennir gan CCAUC i adeiladu ar yr ymrwymiad hwn.

 

Caiff y Rhwydwaith ei gadeirio gan yr Athro Michael Draper (Prifysgol Abertawe) a Dr Mike Reddy (Prifysgol De Cymru) sydd hefyd yn aelodau o Grŵp Cynghori ar Uniondeb Academaidd y DU

 

Mae RhUAC yn cynrychioli staff a myfyrwyr o bob darparydd addysg uwch a reoleiddir ac a ariennir yng Nghymru, sy'n cynnwys y naw prifysgol a dau goleg addysg bellach, yn ogystal ag UCM Cymru. Mae'r Rhwydwaith wedi ymrwymo i hyrwyddo uniondeb academaidd, brwydro yn erbyn camymddwyn academaidd, a hyrwyddo arferion asesu diledryw a chynhwysol.


Digwyddiad Symposiwm Uniondeb Academaidd

Ar 6fed Mehefin 2024, cynhaliodd RhUAC symposium uniondeb academaidd ar-lein yn seiliedig ar themâu’r Rhwydwaith. Roedd y digwyddiad yn cynnwys chwe gweithdy/cyflwyniad o wahanol rannau o Gymru a Lloegr, ac yn rhyngwladol, ynghyd â phanel yn canolbwyntio ar edych tua’r dyfodol.

Roedd y cyflwyniadau, y gweithdai a'r trafodaethau panel yn cynnwys


Ar 9fed Mehefin 2023, cynhaliodd RhUAC symposiwm uniondeb academaidd ar-lein yn seiliedig ar themâu’r Rhwydwaith. Roedd y digwyddiad yn cynnwys chwe gweithdy/cyflwyniad o bob rhan o Gymru a Lloegr, ynghyd â phanel yn canolbwyntio ar edrych ymlaen at y dyfodol.

Roedd y cyflwyniadau, y gweithdai a'r trafodaethau panel yn cynnwys

  • Uniondeb Academaidd yn y Brifysgol Agored: Ymateb i her gynyddol
    Richard Marsden ac Emma Worth, Y Brifysgol Agored
  • Agwedd wasgaredig at AI (Deallusrwydd Artiffisial) ac uniondeb academaidd 
    Neil Pickles, Amy Rattenbury, Daniel Knox a Cerys Alonso, Prifysgol Wrecsam
  • Clarify:  Teclyn meta ar gyfer canfod golygiadau anghyffredin ym metadata dogfennau MS Office
    Clare Johnson a Mike Reddy, Prifysgol De Cymru
  • Deallusrwydd artiffisial, asesu ac uniondeb academaidd: Gweithio gyda myfyrwyr fel cyd-gynllunwyr 
    Jack Medlin, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Keele
  • Tawelu'r sgwrs: Datblygu canllawiau sefydliadol ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial model iaith mawr
    Michael Draper, Prifysgol Abertawe  
  • Datgloi ymchwil uniondeb academaidd gan ddefnyddio efelychiadau, cymorth AI a ChatGPT
    Thomas Lancaster, Coleg Imperial Llundain
  • Trafodaeth banel: Edrych ymlaen at heriau a chyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer asesu ac uniondeb academaidd
    Mike Reddy, Prifysgol De Cymru; Eve Alcock, QAA; James Wood, Prifysgol Bangor; Steven Kehoe, Grŵp Llandrillo Menai; a Kate Gilliver, Prifysgol Caerdydd.