Trwy drefniadau grant gyda CCAUC, mae QAA wedi cefnogi Prosiectau Gwelliant Cydweithredol ym meysydd cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant; dysgu digidol; a micro-gymwysterau.
Galw am fynegiant o ddiddordeb
Rhagoriaeth o ran Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant o fewn Addysg Uwch: Taith Ysgolion Busnes Cymru
Mae’r prosiect yn archwilio'r heriau o ran cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant (EDI) sy'n wynebu Ysgolion Busnes Cymru a'r arferion y maent wedi'u datblygu er mwyn mynd i'r afael â hwy. Fe’i harweiniwyd gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â thimau o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Wrecsam, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Roedd y prosiect yn cynnwys myfyrwyr ac aelodau staff mewn cyfres o weithdai a nododd gasgliad o themâu allweddol, ac yna datblygu fframwaith ar gyfer gwreiddio blaenoriaethau EDI mewn amgylcheddau addysg uwch.
Un o allbynnau'r prosiect yw llawlyfr sy'n olrhain datblygiad ystod o fentrau EDI trwy gyfres o astudiaethau achos byr. Mae'r rhain yn cynnwys trafodaethau am y rhwydwaith LHDTC+ yn Abertawe, gwaith ar lesiant ac ymdrechion cydraddoldeb hiliol yng Nghaerdydd, hyder anabledd a chefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol ym Mangor, a chamau gweithredu i gefnogi myfyrwyr a staff Moslemaidd ym Mhrifysgol De Cymru.
Gallwch ddarllen y llawlyfr rhyngweithiol ar wefan Prifysgol Abertawe.
Y Gydweithfa Gymreig: Gwella Dysgu ac Addysgu Digidol
Mae’r prosiect dysgu drwy drochi, Y Gydweithfa Gymreig: Gwella Dysgu ac Addysgu Digidol, wedi’i ddatblygu gan Rwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru, i fwrw ymlaen â gwaith y Gronfa Buddsoddiad ac Adferiad Addysg Uwch (HEIR) CCAUC. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mae’n cynnwys holl brifysgolion Cymru. Nod y prosiect yw cynnal a gwella dysgu digidol ymhellach, gyda ffocws penodol ar ddysgu drwy drochi. Datblygodd y prosiect ddigwyddiad rhwydweithio cydweithredol ar gyfer dysgu drwy drochi, i gynorthwyo â dysgu a rhannu arfer ar draws Cymru gyfan. Cynhaliwyd y digwyddiad rhwydweithio ar 21ain Mehefin 2023 yn Y Fforwm ar Gampws Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae darparwyr a gymerodd ran yn y digwyddiad wrthi ar hyn o bryd yn datblygu astudiaethau achos, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar Wefan QAA yn 2023-24. Darllenwch blog Steph Tindall am rai o’r uchafbwyntiau a phynciau trafod allweddol o’r digwyddiad.
Bydd y prosiect a’r rhwydwaith hwn yn parhau drwy gyllid Grant CCAUC yn 2023-24.
Gweithredu Fframwaith Cynllunio Micro-gymwysterau
Mae'r prosiect micro-gymwysterau, Gweithredu Fframwaith Cynllunio Micro-gymwysterau, wedi cael ei arwain gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam a Choleg Gŵyr Abertawe. Prif nod y prosiect oedd datblygu dealltwriaeth o'r anawsterau systemig a fydd yn effeithio ar ddatblygiad y ddarpariaeth o ficro-gymwysterau mewn addysg uwch, drwy fireinio model ar gyfer cynllunio, cymeradwyo a gweithredu micro-gymwysterau. Cyflwynodd arweinydd y prosiect yn y weminar micro-gymwysterau ar 24ain Mai.