Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae micro-gymwysterau yn gymwysterau bach sy’n dwyn credyd, ac sy’n seiliedig ar ddeilliannau. Er mwyn ennill micro-gymhwyster, caiff dysgwyr eu hasesu i ddangos eu bod wedi cyflawni'r deilliannau dysgu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Datganiad o Nodweddion Micro-gymwysterau a'r Canllaw Arfer Da ar gyfer Micro-gymwysterau a Chymwysterau Bach yn yr Alban.

 

Grŵp Diddordeb Arbennig Micro-gymwysterau

Mae’r Grŵp Diddordeb Arbennig Micro-gymwysterau (MIC.SIG) a ariennir gan Medr yn Weithgor Trydyddol ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban dan gadeiryddiaeth Steve Osborne, Prif Ddarlithydd Datblygiad Proffesiynol a Gweithlu, ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r MIC.SIG wedi'i sefydlu trwy drefniadau grant QAA gyda Medr i gynorthwyo â datblygiad a rhannu arfer ym maes micro-gymwysterau sy'n datblygu'n gyflym ar draws addysg uwch ac addysg bellach.

 

Prif amcanion MIC.SIG yw:

 

  • Cynorthwyo’r sector trydyddol i sicrhau bod myfyrwyr a dysgwyr micro-gymwysterau’n derbyn addysg o’r ansawdd uchaf posibl yn unol â darpariaeth addysg drydyddol draddodiadol arall.
  • Cyfrannu at ddatblygu rhagoriaeth, annibyniaeth, ac ymddiriedaeth yn y gwaith o sicrhau ansawdd a gwella darpariaeth ficro-gymwysterau gan ddefnyddio meysydd y mae QAA yn canolbwyntio arnynt, sef safonau, arweinyddiaeth a sicrwydd ansawdd a gwelliant fel sylfaen i arwain gwaith MIC.SIG.
  • Hyrwyddo defnydd o'r Datganiad o Nodweddion Micro-gymwysterau i ddarparwyr addysg drydyddol sy’n datblygu a chynnal darpariaeth ficro-gymwysterau, yn ogystal â chefnogi unrhyw ddatblygiadau pellach i’r Datganiad.

I gynorthwyo â'r nodau hyn, bydd y MIC.SIG yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau i ddarparu gwybodaeth a rhannu arfer da ar ddatblygu a chyflwyno micro-gymwysterau.

 

Cynhaliodd y Rhwydwaith ei weminar gyntaf ym mis Mai 2024 gan roi sylw i’r tirweddau polisi micro-gymwysterau ledled y DU. Cynhaliwyd yr ail weminar ym Mawrth 2025 gan roi sylw penodol i safbwyntiau rhyngwladol - mae recordiadau a chyflwyniadau o'r naill ddigwyddiad a’r llall i'w gweld isod.

 

Ein trydydd gweminar yn y gyfres hon yw: Cardiau-post micro-gymwysterau o'r Gwledydd: Digwyddiad rhannu arfer gyda ffocws ar ddatblygiad micro-gymwysterau ledled y DU (Dydd Mawrth 3 Mehefin). Mae'r digwyddiad deinamig a rhyngweithiol hwn, sy'n cynnwys sgyrsiau cyflym gan ymarferwyr, ac am ddim ac yn agored i bawb. Ewch i Safle Archebu Digwyddiadau QAA i gofrestru.

 

Mae MIC.SIG hefyd yn casglu astudiaethau achos o bob rhan o'r DU i gofnodi arfer cyfredol wrth ddatblygu, gweithredu a gwerthuso darpariaeth ficro-gymwysterau. Rydym yn croesawu astudiaethau achos ar y canlynol:

 

  • Gweithio gyda chyflogwyr ar ddatblygu micro-gymwysterau
  • Ymgysylltu â dysgwyr ar gyrsiau byr neu ficro-gymwysterau
  • Datblygu fframweithiau i werthuso effeithiolrwydd darpariaeth micro-gymwysterau
  • Y defnydd effeithiol o'r Datganiad Nodweddion Micro-gymwysterau
  • Mentrau cydweithredol i godi ymwybyddiaeth o ficro-gymwysterau o fewn darparwyr neu gyda chyflogwyr.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyflwyno astudiaeth achos, heb fod yn fwy na 800 gair, defnyddiwch y ddolen hon.

Gweminarau


Arfer micro-gymwysterau: polisi a safbwyntiau o wledydd y DU (Digwyddiad a ariennir gan CCAUC)

Gweithgor Trydyddol ar ficro-gymwysterau (Grŵp Diddordeb Arbennig Micro-gymwysterau) – a ariennir gan CCAUC


Rhwydwaith ar draws yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon sy’n cael ei gadeirio gan Steve Osborne, Prif Ddarlithydd Datblygiad Gweithlu a Phroffesiynol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yw’r Gweithgor Trydyddol ar ficro-gymwysterau a ariennir gan CCAUC (Grŵp Diddordeb Arbennig micro-gymwysterau). Mae'r grŵp wedi'i sefydlu trwy drefniadau grant QAA gyda CCAUC i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a rhannu arfer ym maes micro-gymwysterau sy'n datblygu'n gyflym ar draws addysg uwch ac addysg bellach.

 

Weminar - Dydd Mawrth 21ain Mai 2024

Bydd y weminar gyntaf hon, a drefnir gan y Rhwydwaith mewn partneriaeth â QAA, yn rhannu tirweddau polisi cyfredol ar draws addysg uwch ac addysg bellach mewn micro-gymwysterau a dysgu cyrsiau byr ar draws pob un o wledydd cartref y DU. Bydd trosolwg byr o’r arferion cyfredol a’r datblygiadau polisi ym mhob un o wledydd y DU, ac yna trafodaeth banel gyda’r cynrychiolwyr.

 

Mae QAA yn ddiolchgar i’r cydweithwyr canlynol am eu cyfraniad at y weminar:

  • Steve Osborne, Prif Ddarlithydd Datblygiad Proffesiynol a Gweithlu, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Yr Athro Laura Roberts, Athro Biowyddorau, Prifysgol Abertawe
  • Michael Bower, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Iwerddon y Brifysgol Agored
  • Jon Buglass, Is-Bennaeth Coleg Caeredin
  • Yr Athro Annabel Kiernan, Dirprwy Is-Ganghellor - Academaidd, Prifysgol Swydd Stafford

Arfer micro-gymwysterau: Persbectifau rhyngwladol i ategu datblygiad ar draws gwledydd y DU

Weminar - Dydd Mercher 12fed Mawrth 2025

Rhannodd ein siaradwyr arbenigol, Mary Bishop a Rupert Ward, rywfaint o’r gwaith y maent wedi bod yn rhan ohono. Cadeiriodd Steve Osborne drafodaeth banel, ac yna cynhaliwyd sesiwn holi-ac-ateb gan y cyfranogwyr.

 

Arfer micro-gymwysterau: Persbectifau rhyngwladol i ategu datblygiad ar draws gwledydd y DU

Dyddiad cyhoeddi: 18 Maw 2025

Mae QAA yn ddiolchgar i’r cydweithwyr canlynol am eu cyfraniad at y weminar:

  • Yr Athro Mary Bishop, Cyfarwyddwr, Y Gymdeithas Feddygol Frenhinol
  • Steve Osborne, Prif Ddarlithydd Cyflogadwyedd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Yr Athro Rupert Ward, Deon Cyswllt (Rhyngwladol) ac Athro Arloesedd Dysgu ym Mhrifysgol Huddersfield.

Prosiect gwella sy'n archwilio arfer cyfredol yn mewn perthynas â micro-gymhwysterau

Cynhaliodd QAA brosiect gwelliant yn archwilio arfer cyfredol yn y sector mewn perthynas â micro-gymwysterau, gan adeiladu ar astudiaethau achos a ddatblygwyd gan CCAUC a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022. Archwiliodd y prosiect y defnydd presennol o Ddatganiad Nodweddion Micro-gymwysterau QAA (cyhoeddwyd Mai 2022).

 

Wrth fynd ati i gynnal y prosiect, dosbarthodd QAA arolwg i bob un o'r darparwyr a oedd yn cymryd rhan (naw sefydliad AU a dau goleg AB) ac yn dilyn hynny cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau gyda'r darparwyr hyn.

 

Roedd y sgyrsiau’n gyfle i archwilio rhai o'r dulliau yn fwy manwl; unrhyw heriau a ffyrdd yr eir i'r afael â hwy; y defnydd o Ddatganiad Nodweddion Micro-gymwysterau QAA ac a fyddai unrhyw ddiwygiadau iddo yn ddefnyddiol ar hyn o bryd; ac unrhyw feysydd eraill a allai fod yn werthfawr i'r sector eu harchwilio er mwyn gwella arfer.



Weminars



Quality Assurance processes (24 May 2023)



Ymarferoldeb cyflwyno (7 Mehefin 2023)