Canfyddiadau Myfyrwyr o Welliant - Crynodeb
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hyd 2024
Mae QAA wedi'u comisiynu gan Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) i archwilio arfer effeithiol ar draws sector trydyddol Cymru wrth ddatblygu mentrau i gefnogi dysgwyr i symud ymlaen i raglenni lefel uwch a chynnig gwell cymorth i’w gallu i ddysgu.
Bydd y prosiect yn casglu ynghyd ystod o enghreifftiau o arfer da, gan gynnwys gweithgareddau a mentrau gan:
Rydym yn ceisio cyfraniadau ar ffurf astudiaethau achos gan amrywiaeth o ddarparwyr i gasglu arfer da cyfredol. Gall hyn fod yn waith a wneir gan ddarparydd unigol neu'n weithgarwch cydweithredol rhwng partneriaid, er enghraifft. Lle bo modd, anogir gwybodaeth am effaith gweithgaredd i ategu astudiaethau achos. Bwriedir i'r astudiaethau achos hyn gael eu casglu ynghyd i ffurfio adroddiad prosiect a'u cyhoeddi yma ar wefan QAA.
Comisiynwyd QAA Cymru gan CCAUC (a ddisodlwyd gan Medr 1af Awst 2024) i gynnal astudiaeth o ganfyddiadau myfyrwyr mewn darparwyr yng Nghymru o welliant. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys cyfres o 12 grŵp ffocws gyda 40 o fyfyrwyr mewn tri choleg addysg bellach, saith sefydliad addysg uwch a dau ddarparydd amgen. Gellir gweld y canlyniadau allweddol a’r argymhellion o’r astudiaeth yn yr adroddiad isod.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hyd 2024
Roedd QAA Cymru yn falch iawn o gynnal gweminar fywiog ar 21 Mai 2024 er mwyn rhannu profiadau o welliant cydweithredol ar draws y DU. Roedd y weminar yn rhan o brosiect QAA a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i archwilio gwelliant cydweithredol, manteision a heriau gweithio ar y cyd. Roedd hyn yn cynnwys ystyried unrhyw anawsterau sy’n ymwneud â gweithio ar draws ffiniau’r DU a’r berthynas rhwng partneriaid mewn colegau a phrifysgolion sy’n ymwneud â phrosiectau trydyddol. Gallwch ddod o hyd i grynodeb o'r pwyntiau trafod allweddol isod.
Dyddiad cyhoeddi: 05 Meh 2024