Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Cynhaliodd QAA brosiect gwelliant a oedd yn archwilio'r arfer presennol o arsylwi addysgu gan gymheiriaid yng Nghymru. Mae’r prosiect yn cynnwys cyhoeddi adroddiad trosolwg sy’n ymdrin ag arfer yn y darparwyr a reoleiddir ac a ariennir yng Nghymru, a sut mae hyn yn cymharu ag arfer ledled y DU.

 

Er mwyn cynnal y prosiect, dosbarthodd QAA arolwg i bob un o'r 11 darparydd (naw sefydliad AU a dau goleg AB) ac yn dilyn hynny cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau gyda'r darparwyr hyn. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys ymchwil wrth ddesg yn rhoi sylw i arfer ar draws rhannau eraill o'r DU, gan gynnwys 25 sefydliad AU o wahanol strwythur, maint a math.

 

Mae'r prosiect hefyd wedi cynhyrchu rhestr wirio o gwestiynau allweddol i'w hystyried wrth weithredu cynllun arsylwi addysgu gan gymheiriaid.


Cwestiynau allweddol i'w hystyried wrth weithredu cynllun arsylwi addysgu gan gymheiriaid

Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2023

Weminar

Yn ogystal â’r adroddiad, cynhaliwyd gweminar ddydd Mawrth 27ain Mehefin i rannu canfyddiadau’r prosiect a rhannu arferion.

 

Roedd y weminar yn cynnwys y cyflwyniadau canlynol:


Cymariaethau rhyngwladol: ystyried newid diwylliannol wrth gynllunio rhaglen adolygu addysgu cymheiriaid

Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2023