Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Bwerau Dyfarnu Graddau (Pwyllgor CBDG) yn ystyried ceisiadau am bwerau dyfarnu graddau a/neu deitl prifysgol. I ategu'r gwaith hwn, mae'n goruchwylio'r meini prawf a'r prosesau craffu a ddefnyddir i asesu ceisiadau ac i wneud argymhellion i Fwrdd QAA er mwyn hysbysu natur y cyngor cyfrinachol y mae QAA yn ei roi i weinidogion.
Dyddiadau'r pwyllgor
- 30 Mawrth 2023
- 29 Mehefin 2023
Newidiadau i'r Pwyllgor
Mewn ymateb i ofynion newydd sydd wedi'u nodi yn y Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil, rhoddodd Bwrdd Cyfarwyddwyr QAA gymeradwyaeth i adolygiad cynhwysfawr o gylch gwaith y Pwyllgor CBDG ym mis Rhagfyr 2017.
Ym mis Mawrth 2018, penodwyd tri aelod newydd sy'n dod â phrofiad o ddarparwr addysg uwch heb bwerau dyfarnu graddau, profiad o gyflogi graddedigion, a phrofiad o annog cystadlu ym myd diwydiant. Erbyn hyn, mae gan y Pwyllgor CBDG yr holl gategorïau o brofiad sy'n ofynnol gan QAA, yn ei rôl fel y corff sicrhau ansawdd dynodedig yn Lloegr, i roi cyngor ar faterion pwerau dyfarnu graddau i'r Swyddfa Myfyrwyr.
Trefn gyfredol y PwyllgorTrefn gyfredol y Pwyllgor
Mae aelodaeth y Pwyllgor yn cynnwys:
- Y Cadeirydd (sy'n annibynnol i QAA)
- Dau aelod o Fwrdd QAA
- Saith aelodsydd â phrofiadcyfredol neu ddiweddar o bweraudyfarnugraddau'r DU ar lefelstrategol a rhyngwladol
- Dau aelod sy'n rhoi safbwynt cyflogwr neu gorff proffesiynol
- Un aelod sydd â chefndir mewn addysg uwch mewn coleg
- Un aelod sy'n fyfyriwr
- Mae modd i ddau aelod ychwanegol gael eu cyfethol i'r Pwyllgor i sicrhau arbenigedd perthnasol arall.
Hefyd, mae'r Pwyllgor CBDG yn gwahodd arsylwyr o'r canlynol, fel y bo'n briodol:
- Adran Addysg Llywodraeth y DU
- Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru
- Cyfarwyddiaeth Ddysgu Uwch a Gwyddoniaeth Llywodraeth yr Alban
- Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon
- Cyrff cyllido addysg uwch y DU.
- Mae Prif Weithredwr QAA a'r Cyfarwyddwr Colegau a Darparwyr Amgen yn QAA yn mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor yn rhinwedd eu swyddi.
Mae'r Pennaeth Pwerau Dyfarnu Graddau a Theitl Prifysgol yn QAA yn gweithredu fel Ysgrifennydd i'r Pwyllgor CBDG.
Aelodau'r Bwrdd
- Cadeirydd y Bwrdd – Mr Andrew Ramsay, Cyn-Brif Swyddog Gweithredol, Y Cyngor Peirianneg
- Yr Athro Tim McIntyre-Bhatty, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Bournemouth
- Yr Athro Phil Cardew, Dirprwy Is-Ganghellor (Academaidd), Prifysgol Beckett Leeds
- Yr Athro Christopher Clare, Cyn-Gyfarwyddwr Datblygu Ansawdd, Polisïau a Rheoliadau, Coleg Prifysgol Athrofa Gwasanaethau Ariannol (ifs)
- Yr Athro Aldwyn Cooper, Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr, Regent's University, Llundain
- Yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro, Prifysgol Aberystwyth
- Mr Charles Hunt, Is-Ganghellor, Coleg Prifysgol Osteopathi
- Ms Anne Lambert, Aelod o Fwrdd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
- Yr Athro Geoff Layer, Is-Ganghellor, Prifysgol Wolverhampton
- Yr Athro Jane Longmore, Is-Ganghellor, Prifysgol Chichester
- Mr Tom Lowe, Rheolwr y Ganolfan Ymgysylltiad Myfyrwyr, Prifysgol Caerwynt
- Yr Athro Lorna Milne, Uwch-Is-Bennaeth (Proctor), Prifysgol St Andrews
- Ms Dorothea Ross-Simpson, Pennaeth Ansawdd Academaidd ac Ymddygiad Myfyrwyr, Prifysgol Keele
- Yr Athro Alan Speight, Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg), Prifysgol Hull
- Ms Jenny Taylor, Arweinydd Sefydliad IBM (UK)
- Dr Steve Wright, Cyfarwyddwr Addysg Uwch, Coleg Nelson a Colne