Proses Ymchwilio Pryderon (Cymru)
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebr 2022
Mae nifer o gyrff sy'n ymdrin â chwynion yn ymwneud ag addysg uwch. Mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar feysydd penodol lle maent yn cynnig cymorth.
Yn QAA, rydym yn defnyddio'r term ‘pryderon’ yn hytrach na ‘chwynion’. Rydym yn ymchwilio pryderon am safonau academaidd, ansawdd a gwybodaeth gyhoeddus darparwyr addysg uwch y DU. Mae gennym ein Cynllun Pryderon ein hunain. Rydym yn defnyddio'r cynllun hwn i ymchwilio pob achos yn deg ac mor brydlon ag y gallwn.
Gallwn ymdrin â phryderon am y mathau canlynol o ddarparwyr addysg uwch:
Os ydych wedi cwblhau proses gwyno'r darparwr ei hun yn barod, dyma'r hyn y gallwn eich helpu ag o:
Os na allwn ni eich helpu, efallai y bydd un o'r cyrff canlynol yn gallu gwneud hynny:
Mae Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yn edrych ar gwynion unigol gan fyfyrwyr yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r Swyddfa Myfyrwyr yn ystyried pryderon am ansawdd a safonau darparwyr addysg uwch a gyllidir yn gyhoeddus yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gall myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ddod â chŵyn at Medr ynghylch problemau systemataidd yn ymwneud ag ansawdd a safonau o fewn eu sefydliad - os yw ar gofrestr Medr yng Nghymru. Dylid cyfeirio cwynion unigol at Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (gweler isod). Ewch i wefan Medr.
Mae'r drefn yn darparu mecanwaith y gall cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch ei ddefnyddio i gyfeirio pryderon at QAA i'w hymchwilio am safonau academaidd neu ansawdd profiad y myfyrwyr mewn sefydliadau a reoleiddir.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebr 2022
Ewch i'n tudalen ‘Cwynion am QAA’ os gwelwch yn dda