| Nodweddion arfer da |
Argymhellion ar gyfer gweithredu |
Aeth y tîm adolygu ati i bennu'r meysydd yma fel arferion da:
- y model ar gyfer datblygu cysylltiadau o bob math gyda chyflogwyr sy'n sicrhau amrywiaeth o fanteision, yn cynnwys cyfranogaeth y cyflogwr yn y gwaith o gynllunio'r cwricwlwm ac mewn creu cyfleoedd datblygiad staff
- y ffaith fod cefnogaeth academaidd a phersonol ar gael yn hawdd i'r myfyrwyr, sydd wedi'i hyrwyddo gan ymrwymiad y staff i alluogi i'r myfyrwyr sicrhau'r manteision mwyaf o'u profiad dysgu.
|
Argymhellion ar gyfer gweithredu fyddai'n fanteisiol:
- cyflwyno mwy o ffurfioldeb i weithrediad y system pwyllgorau, yn arbennig mewn perthynas ag adrodd a chyfathrebu rhwng pwyllgorau a sicrhau bod gan is-grwpiau gylch gorchwyl eglur, llinell cyfrifoldeb eglur ac amserlen eglur ar gyfer adrodd
- datblygu mecanweithiau systematig ar lefel sefydliadol ar gyfer rheoli lledaeniad arferion da sydd wedi'u pennu mewn ysgolion, yn cynnwys monitro eu gweithrediad ehangach a gwerthuso eu heffaith
- mabwysiadu agwedd fwy strategol i gynllunio ar gyfer sicrhau'r adnoddau dysgu gofynnol yng nghyd-destun y broses barhaus o adnewyddu'r cwricwlwm
- ffurfio strategaeth sefydliadol ar gyfer gweithgareddau cydweithredol, er mwyn darparu fframwaith ar gyfer datblygu cysylltiadau partner ym Mhrydain a thramor.
|