achredu
achredu dysgu ardystiedig blaenorol
achredu dysgu blaenorol
achredu dysgu profiadol blaenoro
addysg bellach
addysg gyrfaoedd
addysg uwch
adolygiad
adolygiad allanol
Adolygiad Ansawdd a Gwelliant Integredig
Adolygiad ar Gyfer Goruchwyliaeth Addysgol
Adolygiad Crynodol
adolygiad cyfnodol
Adolygiad dan Arweiniad Sefydliad
Adolygiad Sefydliado
Adolygiad Sefydliadol i Sicrhau Gwelliant
adolygwr
adroddiad adolygiad
ail farcio
ansawdd academaidd
Archwiliad o Ddarpariaeth Gydweithredol
Archwiliad Sefydliadol
arfer da
arholi allanol
arholwr allanol
asesiad crynodol
asesiad diagnostig
asesiad ffurfiannol
asesiad synoptig
Yn ôl at y brif eirfa
achredu Proses o gadarnhau neu gymeradwyo rhaglen addysg uwch, neu sefydliad addysg uwch, gan sefydliad allanol awdurdodedig. Gall rhaglenni gael eu hachredu gan gorff proffesiynol neu gorff rheoleiddio, megis y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
achredu dysgu ardystiedig blaenorol Adnabod, asesu a chydnabod yn ffurfiol y dysgu a'r cyflawniad a ddigwyddodd rywbryd yn y gorffennol cyn mynediad i gwrs astudio, ac y derbyniodd y dysgwr ryw fath o gydnabyddiaeth swyddogol amdano.
achredu dysgu blaenorol Adnabod, asesu a chydnabod yn ffurfiol y dysgu a'r cyflawniad a ddigwyddodd rywbryd yn y gorffennol (efallai o ganlyniad i gwrs blaenorol, astudiaeth hunangyfeiriedig, neu brofiad gweithredol), a gymerir i ystyriaeth wrth roi lle i fyfyriwr ar gwrs astudio.
achredu dysgu profiadol blaenorol Adnabod, asesu a chydnabod yn ffurfiol y dysgu a'r cyflawniad a ddigwyddodd rywbryd yn y gorffennol cyn mynediad i gwrs astudio, ond nid yng nghyd-destun addysg neu hyfforddiant ffurfiol.
addysg bellach Dysgu ffurfiol sy'n dilyn addysg orfodol, megis Safonau Uwch, NVQ a chyrsiau Mynediad i Addysg Uwch. Fel arfer mae angen rhyw fath o addysg bellach i gymhwyso ar gyfer mynediad i addysg uwch.
addysg gyrfaoedd Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad (IAG) sydd wedi'u bwriadu i helpu myfyrwyr gyda dewisiadau gyrfaol, a chynllunio a pharatoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol ac addysg bellach neu hyfforddiant. I gael diffiniadau manwl o dermau eraill sy'n ymwneud â gyrfa, gweler y rhestr termau ar ddiwedd Adran 8 y Cod ymarfer ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau academaidd mewn addysg uwch.
addysg uwch (AU) Addysg a ddaw ar ôl addysg uwchradd ac addysyg bellach ac sydd wedi'i nodweddu gan elfen fawr o ddysgu annibynnol. Yn nodweddiadol, mae'n gofyn gweithio tuag at radd ond mewn rhai achosion, mae'n arwain at ddiploma, tystysgrif neu gymhwyster cyfatebol arall.
adolygiad Gwerthusiad trwyadl gan arbenigwyr sydd â'r cymwysterau priodol. Ar gyfer y mathau penodol o adolygiad a wneir gan ASA, gweler Adolygiad Ansawdd a Gwelliant Integredig, Adolygiad ar Gyfer Goruchwyliaeth Addysgol, Adolygiad Sefydliadol.
adolygiad allanol Adolygiad a weithredir gan mewn sefydliad gan dîm o bobl sydd â'r cymwysterau priodol nad ydynt wedi'u cyflogi yno fel arfer.
Adolygiad Ansawdd a Gwelliant Integredig Y dull a ddefnyddir gan ASA i adolygu darpariaeth addysg uwch mewn colegau addysg bellach yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, sydd fel arfer yn cynnwys cam Ymgysylltiad Datblygiadol ac yn dilyn hynny, o leiaf blwyddyn yn ddiweddarach, Adolygiad Crynodol wedi'i gyhoeddi.
Adolygiad ar Gyfer Goruchwyliaeth Addysgol Adolygiad a weithredir gan ASA i bwrpasau goruchwyliaeth addysgol fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth y DU, sy'n ymwneud â rhaglenni astudio addysg uwch a addysgir ar lefelau 4-7 yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon ac ar lefelau 7-11 yn yr Alban.
Adolygiad Crynodol Adolygiad ASA o ddarpariaeth addysg uwch a ddarperir mewn coleg addysg bellach, gyda chanfyddiadau a gyhoeddwyd. Mae fel arfer yn dilyn ymlaen o gam ymchwiliad cynharach a elwir yn Ymgysylltiad Datblygiadol.
adolygiad cyfnodol Adolygiad o un neu fwy o pwyntiau cyfeirio sydd wedi'u cytuno'n genedlaethol, i gadarnhau bod y rhaglenni o safon academaidd ac o ansawdd priodol. Yn nodweddiadol, mae'r broses yn cynnwys arbenigwyr o sefydliadau eraill.
Adolygiad dan Arweiniad Sefydliad Yn yr Alban, un o gyfres o adolygiadau a wneir gan y sefydliadau addysg uwch, yn dilyn arweiniad gan Gyngor Cyllido'r Alban (SFC) ac sy'n ymwneud â'r holl feysydd astudio, dros uchafswm o chwe blynedd. Y sefydliadau unigol sy'n penderfynu ar yr union ddull adolygu a ddefnyddir ond rhennir nodweddion penodol y cytunwyd arnynt ar draws y sector (ac maent wedi'u disgrifio yn arweiniad SFC). Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio pwyntiau cyfeirio allanol y cytunwyd arnynt, ymgysylltiad myfyrwyr, a defnyddio aelodau panel adolygu o sefydliad heblaw hwnnw sy'n cael ei adolygu.
Adolygiad Sefydliadol (IR) Dull o adolygu a ddefnyddir gan ASA i sicrhau safonau ac ansawdd addysg uwch. Mae'r term yma'n dynodi'r broses sicrhau ansawdd sy'n berthnasol i sefydliadau yng Nghymru. O fis Medi 2011, bydd hefyd yn dynodi'r broses adolygu newydd a ddefnyddir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Adolygiad Sefydliadol i Sicrhau Gwelliant (ELIR) Y dull a ddefnyddir gan ASA yn yr Alban i adrodd ar ansawdd a safonau academaidd mewn sefydliadau addysg uwch, ac sydd â llawer yn gyffredin gyda dulliau archwilio eraill ASA. Yn arbennig, mae ELIR yn archwilio'r ffyrdd mae sefydliadau'r Alban yn ceisio gwella'r profiadau dysgu y maent yn eu darparu i fyfyrwyr.
adolygwr Unigolyn a gyflogir gan ASA i fod yn rhan o'r tîm sy'n adolygu sefydliad; gallai ef/hi fod yn weithiwr cyfredol yn y sector addysg uwch, gweithiwr proffesiynol mewn addysg uwch sydd wedi ymddeol yn ddiweddar neu fyfyriwr cyfredol neu ddiweddar (sydd wedi cwblhau cwrs o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf).
adroddiad adolygiad Dogfen sy'n adrodd yn fanwl ar adolygiad.
ail farcio Fel mae'r enw'n ei awgrymu, ail gam y marcio, a allai fod i bwrpasau gwirio, samplu neu safoni.
ansawdd academaidd Term cyffredinol sy'n cyfeirio at y ffordd mae sefydliadau'n rheoli cyfleoedd dysgu ac addysgu, a pha mor dda maent yn eu rheoli, i helpu myfyrwyr i symud ymlaen a llwyddo.
Archwiliad o Ddarpariaeth Gydweithredol Proses a ddefnyddir gan ASA i asesu safonau academaidd ac ansawdd addysg uwch, a ddarperir drwy drefniant cydweithredol rhwng sefydliad yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon a sefydliad partner yn y DU neu yn rhywle arall (gweler darpariaeth gydweithredol). Yr unig amser y defnyddir y broses hn yw mewn sefyllfaoedd lle mae'r trefniadau cydweithredol yn rhy gymhleth i gael eu hadolygu gan Archwiliad Sefydliadol arferol neu 'hybrid'..
Archwiliad Sefydliadol Proses a ddefnyddir gan ASA i adrodd ar y ffordd, a pha mor dda, mae sefydliadau addysg uwch yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn diogelu ansawdd a safonau eu rhaglenni (mae'n cael ei ddiddymu'n raddol yn 2011). Pan fo gan sefydliad drefniadau darpariaeth gydweithredol sy'n rhy niferus a/neu gymhleth i gael eu gwerthuso yn ystod Archwiliad Sefydliadol arferol, efallai y byddai ASA yn gwneud Archwiliad Sefydliadol Hybrid neu Archwiliad o Ddarpariaeth Gydweithredol ychwanegol.
arfer da Proses neu ffordd o weithio sydd, ym marn tîm adolygu ASA, yn gwneud cyfraniad arbennig o bositif i reolaeth sefydliad ar safonau academaidd ac ansawdd ei ddarpariaeth addysgol. Caiff ei ddefnyddio fel term technegol ym mhrosesau archwilio ac adolygu ASA.
arholi allanol Y broses a ddefnyddir gan un neu fwy o arbenigwyr annibynnol arholwr allanol i roi sylw ar gyflawniad myfyrwyr mewn perthynas â safonau academaidd sefydledig ac am agwedd y sefydliad tuag at asesiad, gan felly helpu i sicrhau bod safonau'n gyson a gweithdrefnau asesu'n deg ledled y DU.
arholwr allanol Arbenigwr annibynnol a benodir gan sefydliad i roi sylwadau ar gyflawniad myfyrwyr mewn perthynas â safonau academaidd sefydledig ac i edrych ar ddulliau o ymdrin ag asesiad
asesiad crynodol Asesiad ffurfiol o waith myfyrwyr, sy'n cyfrannu at y canlyniad terfynol.
asesiad diagnostig Gwerthsiad o ba mor barod yw dysgwr ar gyfer rhaglen benodol neu uned astudio sy'n rhan ohoni, gan ganfod unrhyw gryfderau, bylchau mewn gwybodaeth neu ddiffyg mewn dealltwriaeth a sgiliau angenrheidiol.
asesiad ffurfiannol Adborth am berfformiad myfyriwr, sydd wedi'i lunio i'w helpu i ddysgu'n fwy effeithiol a chanfod ffyrdd o gynnal a gwella eu cynnydd. Nid yw'n cyfrannu at farc, gradd neu ddosbarth terfynol y radd a roddir i'r myfyriwr
asesiad synoptig Asesiad drwy dasg sy'n gofyn i fyfyrwyr dynnu ar wahanol elfennau o'u dysgu a dangos yr wybodaeth y maent wedi'i chasglu a dyfnder ac ehangder eu dealltwriaeth, yn ogystal â'r gallu i integreiddio a defnyddio eu dysgu.
Rhestr: A
Yn ôl at y brif eirfa