teitl prifysgol
trefniad trosglwyddo
trosglwyddo credydau
tymor
tystysgrif addysg uwch > tystysgrif i raddedigion, tystysgrif israddedig, tystysgrif ôl-raddedig
tystysgrif i raddedigion
tystysgrif israddedig
tystysgrif ôl-raddedig
thema
Thema Gwelliant
Yn ôl at y brif eirfa
teitl prifysgol Hawl sefydliad i'w alw ei hun yn brifysgol.
trefniad trosglwyddo Cytundeb ffurfiol lle mae sefydliad dyfarnu yn barnu bod rhan, neu'r cyfan, o raglen a ddarperir gan sefydliad arall yn gyfatebol â darnau o un o'i raglenni ei hun, a thrwy hynny'n galluogi i fyfyrwyr fynd yn syth i mewn i flwyddyn dau, tri neu bedwar y rhaglen yn y sefydliad dyfarnu.
trosglwyddo credydau System sy'n caniatáu i gredyd a ddyfernir gan un corff dyfarnu addysg uwch gael ei gydnabod a'i gynnwys tuag at y gofynion ar gyfer rhaglen mewn sefydliad arall; neu sy'n caniatáu i gredyd a enillir ar raglen benodol gyfrannu tuag at ofynion rhaglen wahanol.
tymor Un rhan o flwyddyn academaidd, pan fo'r flwyddyn wedi'i rhannu'n dair rhan (yn wahanol i'w rhannu'n semestrau).
tystysgrif addysg uwch Gweler tystysgrif israddedig, tystysgrif i raddedigion a thystysgrif ôl-raddedig.
tystysgrif i raddedigion Cymhwyster addysg uwch ar lefel 6 yn Y fframwaith ar gyfer cymwysterau addysg uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ar lefel 6 yn Fframwaith credydau a chymwysterau Cymru, ac ar lefelau 9-10 yn Fframwaith credydau a chymwysterau'r Alban (9 ar gyfer graddau cyffredin, 10 ar gyfer graddau anrhydedd).
tystysgrif israddedig Cymhwyster addysg uwch ar lefel 4 yn Y fframwaith ar gyfer cymwysterau addysg uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ar lefel 4 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, ac ar lefel 7 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban.
tystysgrif ôl-raddedig Cymhwyster addysg uwch ar lefel 7 yn Y fframwaith ar gyfer cymwysterau addysg uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ar lefel 7 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, ac ar lefel 11 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban.
thema Yng nghyd-destun adolygiad, pwnc sydd wedi'i ddewis i dderbyn sylw arbennig i bwrpasau ansawdd.
Thema Gwelliant Maes neu agwedd penodol o ddarpariaeth neu ymarfer, y cytunwyd arnynt ac a gynlluniwyd gan y sector addysg uwch yn yr Alban ac a reolir gan ASA, gyda'r nod o wella profiad dysgu'r myfyriwr. Mae'r Themâu'n annog staff academaidd, staff cymorth a myfyrwyr i rannu arfer da (o'r DU ac yn rhyngwladol) a chynhyrchu syniadau a modelau ar y cyd ar gyfer arloesi mewn dysgu ac addysgu.
Rhestr: T-TH
Yn ôl at y brif eirfa