Skip to main navigation Skip to content
safeguarding standards and improving the quality of UK higher education
 
 

Rhestr termau: S 

safonau academaidd
safon academaidd trothwy
safoni
sefydliad dyfarnu >corff dyfarnu, corff dyfarnu graddau
sefydliad partner
sefydliadau addysg uwch
Seilwaith Academaidd
semester
Siarter Frenhinol
sicrhau ansawdd
statws noddwr ag ymddiriedaeth uchel
System Casglu a Throsglwyddo Credydau Ewropeaidd

Yn ôl at y brif eirfa

safonau academaidd Y safonau a osodir gan sefydliadau ac a gynhelir ganddynt ar gyfer eu cyrsiau rhaglenni modiwlau a'r safonau a ddisgwylir ar gyfer eu dyfarniadau.

safon academaidd trothwy Y safon ofynnol y dylai myfyriwr ei chyrraedd er mwyn ennill cymhwyster neu ddyfarniad penodol, fel y mae wedi'i disgrifio yn y datganiadau meincnod pwnc a'r fframweithiau cymwysterau cenedlaethol. Mae safonau trothwy'n wahanol i safonau perfformiad y mae angen i fyfyrwyr eu cyflawni er mwyn ennill unrhyw ddosbarth penodol o ddyfarniad.

safoni Proses a sefydlwyd i sicrhau bod canlyniad asesiad yn deg a dibynadwy a bod meini prawf asesu wedi'u gweithredu'n gyson.

sefydliad dyfarnu Gweler corff dyfarnu, corff dyfarnu graddau.

sefydliad partner Sefydliad neu gorff arall y mae sefydliad dyfarnu yn mynd i gytundeb ag o i gydweithredu, neu y mae'n ei gomisiynu i ddarparu agweddau o raglen neu i ddarparu cymorth.

sefydliadau addysg uwch (sefydliadau AU) Prifysgolion, colegau neu sefydliadau eraill sydd, yn y lle cyntaf, yn darparu rhaglenni addysg uwch.

Seilwaith Academaidd Arweiniad (neu bwyntiau cyfeirio) a gyhoeddir gan ASA ac a ddefnyddir gan sefydliadau i sicrhau bod eu cyrsiau'n cyflawni disgwyliadau cenedlaethol mewn perthynas â safonau a bod amgylchedd addas ar gael i'r myfyrwyr allu mynd iddo i ddysgu (ansawdd academaidd). Mae'r pwyntiau cyfeirio hyn wedi'u datblygu gan y gymuned addysg uwch ac mae'r gymuned hon wedi cytuno arnynt a'r enw arnynt oll ar y cyd yw'r Seilwaith Academaidd (er bod gwaith ar y gweill i'w hadolygu nhw mewn fformat newydd).

semester Rhan o flwyddyn academaidd pan fo'r flwyddyn wedi'i rhannu'n ddwy ran i bwrpasau addysgu ac asesu (yn wahanol i rannu'n dymhorau).

Siarter Frenhinol Caniatâd gan y brenin/frenhines, ar gyngor y Cyfrin Gyngor, oedd yn gyfrwng i'r mwyafrif o brifysgolion hyn (a sefydlwyd cyn 1992) ennill eu statws prifysgol, sy'n nodi'r cyfansoddiad a'r statudau – y rheoliadau cyffredinol y dylai'r brifysgol weithredu oddi mewn iddynt.

sicrhau ansawdd Monitro a gwerthuso dysgu ac addysgu'n systematig, a'r prosesau sy'n eu cefnogi, i sicrhau bod safonau dyfarniadau academaidd yn cwrdd â disgwyliadau'r DU, a bod ansawdd profiad dysgu'r myfyriwr yn cael ei ddiogelu a'i wella.

statws noddwr ag ymddiriedaeth uchel (HTSS) Statws sefydliadau y mae Llywodraeth y DU yn ymddiried ynddynt i roi lle i fyfyrwyr tramor sydd wedi mewnfudo, yn ôl Haen 4 system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau Asiantaeth Ffiniau'r DU. Mae'n rhaid i'r sefydliadau sydd eisiau ennill y statws yma gwblhau Adolygiad ar gyfer goruchwyliaeth addysgol gan ASA yn llwyddiannus a dod yn gyrff sy'n cael eu rhestru. (Mae'n rhaid i sefydliadau sy'n cynnig addysg bellach neu uwchradd gael adolygiad cyfartal gan yr Arolygiaeth Ysgolion Annibynnol.)

System Casglu a Throsglwyddo Credydau Ewropeaidd (ECTS) System a ddefnyddir drwy Ewrop gyfan ar gyfer casglu a throsglwyddo credydau academaidd (gweler casglu credydau a throsglwyddo credydau).

Rhestr: S

Yn ôl at y brif eirfa


Download and Install BrowseAloud This website is archived by the British Library's UK Web Archive: preserving UK websites